Cyngerdd y Stiwdio Opera Genedlaethol gydag Opera Cenedlaethol Cymru, Chwefror 2004

"CYNGERDD O SAFON"

"Cafwyd cyngerdd ardderchog yn Theatr Ysgol Gyfun Stanwell Penarth ar nos Wener 27 Chwefror dan nawdd Stiwdio'r Opera Genedlaethol. Cymerwyd rhan gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a graddedigion ifanc sy'n gantorion ac yn derbyn hyfforddiant blwyddyn i'w paratoi ar gyfer eu gyrfa broffesiynol yn y byd opera. Un o'r cantorion eleni oedd y bariton Paul Carey Jones, Rhiwbeina cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Glantaf. Enillodd Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts i gantorion ifanc yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001. Pob hwyl iddo yn ei yrfa ym myd yr opera."

Y Dinesydd, Mai 2004

Llais Llwyfan Llanbed, Awst 2002

"Cafwyd noson i'w chofio eleni eto ar y nos Sul yn Neuadd y Coleg yn gwrando ar rai o ddoniau ifanc, disgleiriaf ein cenedl,' meddai Twynog Davies, ysgrifennydd y Pwyllgor Cerdd.

"Y farn gyffredinol oedd bod safon y 12 a ymddangosodd yn y rhagbrawf yn uwch nag yn y gorffennol. Paul Carey Jones o Gaerdydd oedd yn fuddugol gyda Christopher Caroll o'r Rhondda yn ail, Stephanie Corley o swydd Suffolk yn drydydd, Catrin Aur o Feulah yn bedwerydd a Rhian Mair Lewis o Idole yn bumed. Gwefreiddiwyd y gynulleidfa gan safon y canu gyda chymorth yr athrylith Jeanette Massochi wrth y piano.

"Patricia O'Neill ac Odette Jones oedd yn beirniadu ac wrth draddodi'r feirniadaeth diolchodd Odette i'r pwyllgor am gynnwys y gystadleuaeth yma yn flynyddol er mwyn rhoi cymorth ariannol i'r cantorion ifanc."

Cambrian News, Iau 29ain o Awst 2002

Adre