
27ain o Chwefror 2006 - mi fydd Paul Carey Jones yn ymddangos yn rownd derfynol y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig 2006. Cynhelir y rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ar nos Lun y 5ed o Fehefin, gyda Cherddorfa Cenedlaethol Cymreig y BBC dan arweiniad David Parry. Yn ymuno a Paul ar y noson bydd y soprano Sarah-Jane Davies, y mezzo Caryl Hughes a'r tenor Alun Rhys-Jenkins. Enillydd y gystadleuaeth hon fydd yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd yn 2007.
Mae tocynnau ar werth o Ddydd Gwyl Dewi, oddi wrth Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant, ar y we neu dros y ffon: 029 2087 8444.
![]() |
![]() |
![]() |
| Sarah-Jane Davies | Caryl Hughes | Alun Rhys-Jenkins |