
Dydd Mawrth nesaf (Chwefror 17eg) fe fydd cantorion y Stiwdio Opera Genedlaethol yn teithio i Gaerdydd i ddechrau ar eu cyfnod preswyl gydag Opera Cendlaethol Cymru. Mi fydd y cantorion ifainc yn treulio pythefnos yn ymdaflu eu hunain i fywyd y cwmni, trwy weithio gyda staff OCC, trwy gymryd rhan yng ngwaith yr adran addysg, WNO Max, a gan orffen y cyfnod trwy roi cyngerdd gyda cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn Ysgol Stanwell, Penarth, ar nos Wener y 27ain o Chwefror.
Mae’r Stiwdio, sydd wedi’i lleoli yn Llundain, yn denu cantorion o bob cwr o’r byd. Eleni mae yno gynrychiolwyr o Ddenmarc, yr Iseldiroedd, Gwlad Groeg, Seland Newydd ac Awstralia. Yn ol y bariton Paul Carey Jones, o Gaerdydd, sydd hefyd yn astudio yno eleni, mae cryn gyffro yn eu mysg ynglyn a’r ymweliad. “Un o brif atyniadau cwrs y Stiwdio yw’r cyfle i weithio yn agos gyda’r cwmniau opera mawr. Mae cerddorion dros y byd yn gyfarwydd a safon gwaith Opera Cendlaethol Cymru – mi fydd y profiad o weithio gyda nhw dros gyfnod yn un arbennig o werthfawr, ac i mi fel Cymro yn peri cryn falchder hefyd.”
Sefydlwyd y Stiwdio Opera Genedlaethol gan Gyngor y Celfyddydau i weithredu fel cyswllt rhwng y colegau cerdd a chwe phrif cwmni opera Prydain. Hyfforddir dwsin o gantorion a thri phianydd ifanc ac eithriadol o dalentog, i’w paratoi tuag at yrfaoedd ym myd opera proffesiynnol. Ymhlith cyn-aelodau’r Stiwdio mae Leah-Marian Jones, Katarina Karnéus, Wynne Evans, Mark Evans, Gwyn Hughes-Jones a Phillip Joll.