26ain o Awst 2002 - Neithiwr enillwyd gystadleuaeth Llais Llwyfan Llanbed 2002 gan Paul Carey Jones, yn cipio wobr o £1000 yn ogystal a'r Rhuban Glas. Yn yr ail safle oedd y tenor Christopher Caroll, gyda Stephanie Cory yn drydydd. Y beirniaid oedd Patricia O'Neill ac Odette Jones, ac yn eu beirniadaeth clodforent 'datganiad canmoladawy yn arddangos ystod gallu'r llais a'r personoliaeth. Mae ganddo dechneg gadarn ymhob rhan o'r llais a hyn felly yn ei alluogi i ganu'n rhydd, boed yn yr aria operatig. neu yn y lieder, gyda'r cyffyrddiadau ysgafn. Datganiad safonol iawn a erys yn y cof.'

Darlledir y gystadleuaeth ar raglen arbennig ar BBC Radio Cymru ar Sul 13eg o Hydref am 5 o'r gloch.

Yn ol at indecs y newyddion. Adre