ÿþ <head> <meta http-equiv="Content-Type" content="text/html; charset=iso-8859-1"> <title>Paul Carey Jones - ENAID</title> </head> <body bgcolor="#000000" text="#ffffff" link="#ffffff" vlink="#ffffff" alink="#ff0000"> <center> <h1>AR WERTH NAWR</h1> <p> Cyflwyniad o'r nodiadau i <i>Enaid - Songs of the Soul</i> <p> </center> <i>O gymharu â i frodyr mawr fel y symffoni a r opera, cyfyng iawn am ryw reswm fuodd cynulleidfa'r gân gelf erioed. Mae hon yn sefyllfa anodd ei deall; dylasai natur a hyd y gân gelf, dybiwn i, ei gwneud hi n ddelfrydol ar gyfer cynulleidfaoedd modern, yn arbennig y rhai a fagwyd ar ganeuon pop a gwerin, perthnasau agos i r gân gelf. <p> Anelir yr albwm hwn felly nid yn unig at ddilynwyr brwd y gân gelf - er, gobeithiwn y bydd llawer yma i blesio'r rheiny - ond hefyd at unrhyw un sydd yn mwynhau caneuon a cherddi o unrhyw fath. Ni ddylai cymwysterau ieithyddol na cherddorol, nag unrhyw wybodaeth arbenigol, fod yn angenrheidiol i r gwrandawr - cyfrifoldeb y cerddorion yw cyflwyno perfformiadau sy n siarad yn eglur wrth bawb a phob un. <p> Mae'r perfformiadau yma yn dilyn wythnos o sesiynau yn stiwdio Sain yn Llandwrog, lle daflon ni ein hunain at yr her a osodwyd gan ein cyfansoddwyr a n beirdd, heb ofn na rhagfarn ynglwn â thechneg na dadansoddiadau. Gobeithiaf i r albwm gyfleu mymryn o r mwynhad, y wefr a r cyffro gawsom yn ystod yr wythnos. <p> Ni ddywedaf mwy ynglwn â chynnwys y caneuon, gan na fyddai hi n bosib i mi siarad yn fwy eglur na gweithiau r rhai athrylith hynny wnaeth eu cyfansoddi. Y cyfan ddywedaf yw, wrth ddewis adeiladu ein casgliad o ganeuon ar sail y thema  Enaid , ein gobaith yw ein bod ni wedi cyflwyno dilyniant o gerddi i beri mwynhad, myfyrdod ac, o bosib i r rhai na ystyriodd y gân gelf o r blaen, ysbardun i archwilio byd newydd o gyffro artistig.</i> <p> Paul Carey Jones<br> Caeredin, Medi 2007 <p> <center> <b>Ar gael nawr gan <a href="http://www.amazon.co.uk/Songs-Soul-Paul-Carey-Jones/dp/B000XUP8KO/ref=pd_bbs_sr_1/202-7512945-7431829?ie=UTF8&s=music&qid=1194818422&sr=8-1">Amazon</a>, <a href="http://www.hmv.co.uk/hmvweb/displayProductDetails.do?ctx=280;-1;-1;-1&sku=729686">HMV</a> a gwerthwyr eraill ar-lein, neu yn uniongyrchol gan <a href="http://www.sain.wales.com/sain/product.aspx?productuid=250311">Sain</a>.</b> <p> <center> <a href="enaidcym.htm"><img src="enaid2.jpg"></a> <center> <p> <a href="enaidcym.htm">Nôl</a> at <i>Enaid</i> <p> <a href="indecs.htm">Adre</a> </center> </body> </html>