BYWGRAFFIAD

Ganwyd Paul Carey Jones yng Nghaerdydd ym 1974. Buodd yn ddisgybl yn Ysgol Glantāf, lle ddechreuodd ar ei yrfa canu trwy ennill ysgoloriaeth rhan-amser i'r Coleg Cerdd a Drama Cymraeg. Yno ddechreuodd ei astudiaethau gyda Beatrice Unsworth, partneriaeth a barhaodd pan aeth i Goleg y Frenhines, Prifysgol Rhydychen i ddarllen Ffiseg. Yn ystod y cyfnod hwn enillodd sawl gwobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ar ōl dychwelyd fel athro i Ysgol Glantāf, enillodd le ar gwrs ōl-radd yr Academi Frenhinol yn Llundain, yn astudio gyda Mark Wildman, Julius Drake ac Antony Saunders. Tra fuodd yno, enillodd wobr Hubert Kiver yr Academi, yn ogystal a chlodforiaethau am ei ganu ym maes y Lieder a'r gān Seisnig. Mi aeth ymlaen i hyfforddi yn y Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain, gyda chefnogaeth Opera Cenedlaethol Cymru a Ffrindiau Covent Garden.

Buodd Paul yn gweithio gydag arweinwyr megis Seiji Ozawa, Steuart Bedford, Stephen Barlow a Syr Colin Davis, cyfarwyddwyr fel John Copley, Jonathan Cocker, Francesca Zambello, Olivia Fuchs, Jonathan Cocker, William Relton, Renaud Doucet a Richard Gregson, a chantorion o fri, yn eu mysg Jose Cura, James Bowman, Lesley Garrett, Syr Willard White a Syr Thomas Allen. Mi fuodd yn gweithio gyda chwmniau megis Scottish Opera, Wexford Festival Opera, Gwyl Aldeburgh, Bampton Classical Opera a Gwyl Buxton, British Youth Opera, English Bach Festival, ymysg eraill. Mae ganddo hefyd repertoire eang a dwfn yn oratorio a chaneuon, gan iddo fod wedi perfformio ledled Prydain mewn cyngherddau a datganiadau, yn Neuadd Dewi Sant, Neuadd y Frenhines Elisabeth yn Llundain, yng Ngwyl Caeredin, Gwyl Wexford, Gwyl Cerddoriaeth Rhyngwladol Gogledd Cymru, Gwyl Rhuthun, yng Nghanolfan Casnewydd, ac ym Mhalas Buckingham gyda Cherddorfa Symffoni Llundain ym 2002. Mae ganddo hefyd sawl darllediad ar deledu a radio cenedlaethol i'w enw.

Mi fuodd Paul yn aelod o gynllun Cerdd Byw Nawr, mewn partneriaeth gyda'i gyd-Gymro, y pianydd Llyr Williams, gan roi dros 200 o gyngerddi i gynulleidfaoedd dros y wlad. Yn 2001 enillodd Ysgoloriaeth W Towyn Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn ei amser hamdden mae Paul yn dwli ar griced, pźl-droed a golff yn ogystal a chroeseiriau ac ambell i gwis; ym 1999 efe oedd capten tīm cyntaf erioed yr Academi ar raglen cwis y BBC, 'University Challenge'.

Adref